LoisHUGHESHUGHES - LOIS PUGH. Dymuna Elisabeth, Emyr, Hefin, Iona, Eleri a theulu'r diweddar Lois Hughes, gynt o Gwaenynog Bach, ddiolch yn ddiffuant am bob arwydd o gydymdeimlad a estynnwyd iddynt yn eu profedigaeth o golli Mam, Nain a Hen-Nain annwyl. Diolch i bawb am y llu o gardiau, galwadau ffon a rhoddion a dderbyniwyd at Ysbyty Glan Clwyd. Diolch i staff Ward 11, Ysbyty Glan Clwyd ac i bawb yng Nghartref Dolwen am eu gofal. Diolch yn enwedig i'r Parch. Wayne Roberts am y gwasanaeth arbennig ac i Parch. Ifor ap Gwilym am ei gyfraniad i'r gwasanaeth. Diolch hefyd i R. W. Roberts a'i Fab am ei gymorth a'i drefniadau gofalus.
Keep me informed of updates